Llys yr Old Bailey, Llundain
Roedd bachgen ysgol o Loegr wedi bwriadu achosi trychineb saethu debyg i honno ar gampws ysgol uwchradd Columbine yn yr Unol Daleithiau, yn ol tystiolaeth sydd wedi’i chlywed yn yr Old Bailey yn Llundain heddiw.

Roedd y bachgen 17 oed yn cynllunio i ymosod ar ei hen ysgol yn Loughborough, Swydd Gaerlyr, ac roedd wedi lawrlwytho llun oddi ar y we o’r ddau a lofruddiodd 12 o fyfyrwyr ac un athro yn Columbine High School, Colorado, yn 1999.

Mae’r bachgen yn ei arddegau wedi’i ddiagnosio a Syndrom Asperger oddi ar ei arestio, ac fe ddaeth yn glir yn y llys heddiw ei fod wedi ystyried ei ladd ei hunan hefyd. Roedd wedi bod yn teimlo’n isel, yn flin ac yn anhapus iawn yn gynharach eleni.

Mae ef ei hun yn gwadu’r cyhuddiadau, ac mae’r achos yn parhau.