Rebekah Brooks gyda'i gwr Charlie
Roedd cyn brif weithredwr News International Rebekah Brooks a chyn olygydd y News of the World, Andy Coulson wedi cael perthynas am o leiaf chwe blynedd, clywodd rheithgor heddiw.

Dywedodd yr erlynydd, Andrew Edis QC, wrth y rheithgor yn yr Old Bailey fod y ddau wedi bod yn cael perthynas ers rhai blynyddoedd nôl yn 2004.

Dywedodd bod llythyr, yn dyddio nol i fis Chwefror 2004, wedi cael ei ddarganfod ar gyfrifiadur Rebekah Brooks oedd yn datgelu’r berthynas.

Dywedodd Andrew Edis nad oedd wedi datgelu’r berthynas er mwyn amharu ar breifatrwydd y ddau ond er mwyn dangos bod y ddau yn adnabod ei gilydd yn dda.

“Mae Rebekah Brooks ac Andy Coulson wedi’u cyhuddo o gynllwynio, a phan mae pobl wedi’u cyhuddo o gynllwynio, y cwestiwn cyntaf mae’n rhaid i’r rheithgor ofyn yw pa mor dda oedden nhw’n adnabod ei gilydd? Faint oedden nhw’n ymddiried yn ei gilydd?

“Mae’r ffaith eu bod nhw mewn perthynas, oedd yn gyfrinach, yn golygu eu bod nhw’n ymddiried yn ei gilydd cryn dipyn – gyda’r gyfrinach yna, beth bynnag, a dyna pam rydyn ni’n dweud wrthoch chi am y berthynas,” meddai.

Ychwanegodd y byddai datgelu’r wybodaeth am y berthynas yn debygol o ddenu “cryn dipyn o sylw” ac y gallai arwain at sylwadau “annheg ac angharedig.”

Mae’r achos yn parhau.