Mae cyhoeddwyr papurau newydd wedi colli eu hachos yn yr Uchel Lys i geisio atal y Llywodraeth rhag cael sêl bendith ar gyfer siarter newydd i reoleiddio’r wasg.

Roedd y diwydiant papurau newydd wedi gwneud cais i sicrhau adolygiad barnwrol munud olaf yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i wrthod eu cynlluniau nhw ar gyfer siarter brenhinol i reoleiddio’r wasg.

Eu bwriad oedd ceisio atal gweinidogion y Llywodraeth rhag mynd i’r Cyfrin Gyngor yn ddiweddarach heddiw er mwyn cael cymeradwyaeth y Frenhines ar gyfer siarter brenhinol newydd.

Dyfarnodd barnwyr yn yr Uchel Lys nad oedd gan y cyhoeddwyr achos dilys i herio’r penderfyniad i wrthod eu cynlluniau nhw ar gyfer siarter brenhinol, oedd wedi cael cefnogaeth y diwydiant papurau newydd.

Mae’r diwydiant papurau newydd yn gwrthwynebu siarter y Llywodraeth am eu bod yn credu y byddai’n arwain at ormod o ymyrraeth wleidyddol, ond mae’r siarter wedi cael cefnogaeth y tair prif blaid wleidyddol.

Fe gyhoeddodd y cyhoeddwyr prynhawn ma eu bod yn bwriadu mynd a’u hachos i’r Llys Apel.