Fe fydd cynrychiolwyr o’r diwydiant papurau newydd yn mynd i’r Uchel Lys heddiw er mwyn ceisio cael caniatâd i gyflwyno her gyfreithiol.

Mae’n dilyn penderfyniad y Llywodraeth i wrthod eu cynlluniau ar gyfer siarter brenhinol newydd i reoleiddio’r wasg.

Credir bod y cais heddiw am adolygiad barnwrol yn cynnwys cais i geisio atal gweinidogion rhag cael cymeradwyaeth y Frenhines ar gyfer siarter brenhinol arall.

Mae’r diwydiant papurau newydd yn gwrthwynebu’r siarter arall am eu bod yn credu y byddai’n arwain at ormod o ymyrraeth wleidyddol, ond mae’r siarter wedi cael cefnogaeth y tair prif blaid wleidyddol.