(llun:Tim Ireland/PA Wire)
Bydd y ffidil gafodd ei chwarae wrth i’r ‘Titanic’ suddo ar 14 Ebrill 1912 mewn arwerthiant sy’n cynnwys nifer o greiriau oddi ar y llong yn Deivzes, Wiltshire heddiw.

Roedd y ffidil yn eiddo i Wallace Hartley sef meistr band y Titanic ac yn ôl straeon am y trychineb fe wnaeth o a’i gyd-gerddorion barhau i chwarae wrth i’r llong suddo dan y dwr ar ôl taro mynydd o rew.

Yn ôl hanesion fe wnaethon nhw chwarae yr emyn dôn ‘Nearer My God Too Thee’ cyn llithro i ddyfroedd oer yr Iwerydd.

Roedd Hartley a’r saith cerddor ymhlith y 1,500 foddwyd a daethpwyd o hyd i’r ffidil mewn câs wedi ei rwymo i’w gorff pan gafodd ei godi o’r dwr.

Daethpwyd o hyd i’r ffidil wedyn mewn atig tŷ yn Swydd Efrog yn 2006 ac mae’r arthwerthwyr, Henry Aldridge and Son Cyf yn mynnu mai dyma union ffidil Wallace Hartley.

Disgwylir i’r ffidil werthu am rhwng £200,000 a £400,00.

Bydd creiriau eraill yn cynnwys llun du a gwyn o angladd rhai o’r teithwyr a’r criw foddwyd hefyd ar werth.