Mae’r cricedwr  Kevin Pieterson wedi derbyn iawndal wedi i hysbyseb awgrymu y gallai fod wedi twyllo dyfarnwyr yn ystod cyfres y Lludw eleni.

Nid oedd batiwr Lloegr yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw i glywed yr achos yn erbyn cwmni Specsavers.

Dywedodd cyfreithiwr Kevin Pieterson, Louise Prince, fod yr hysbyseb wedi ei chyhoeddi ar wefannau Trydar a Facebook y cwmni  yn ogystal â nifer o bapurau newydd a chylchgronau ym mis Awst.

Roedd yr hysbyseb yn cynnwys llun o Pieterson gyda’r capsiwn – “ymyrryd â batiau yn ystod cyfres y Lludw? Yn ôl pob golwg y dylai Hot Spot wedi cysylltu â Specsavers.”

Cafodd yr hysbyseb ei chyhoeddi  wedi i Gwmni Sianel 9 yn Awstralia ddefnyddio delwedd o Pieterson yn colli ei wiced yn ystod y trydydd prawf rhwng Lloegr ac Awstralia ym mis Awst.

Honnodd Sianel 9 fod chwaraewyr yn defnyddio tâp silicon are eu batiau i atal technoleg Hot Spot rhag helpu dyfarnwyr i ganfod os oedd y batwyr wedi bwrw’r bêl ai peidio.

Dywedodd Louise Prince nad oedd unrhyw wirionedd i’r honiadau.

Mae cwmni Specsavers wedi ymddiheuro i  Kevin Pieterson gan dderbyn nad oedd unrhyw sail i’r honiad cyn cytuno talu iawndal ‘sylweddol’ iddo a thalu ei gostau cyfreithiol.

Nid yw swm yr iawndal a dderbyniodd y chwaraewr 33 oed wedi ei gyhoeddi.