Guto Harri
Mae Cyfarwyddwr Cyfathrebu News UK wedi dweud y dylai’r wasg yng Ngwledydd Prydain gael un cyfle arall i roi eu tŷ mewn trefn.
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics y BBC dywedodd Guto Harri bod cynlluniau’r llywodraeth yn bygwth rhyddid y wasg a bod gan y diwydiant fwriad i sefydlu rheoleiddiwr grymus ei hun.
Bydd y Cyfrin Gyngor yn ystyried dau gynnig i reoleiddio’r wasg yr wythnos yma.
Mae un cynnig trawsbleidiol yn seileidig ar argymhellion adroddiad Leveson ar safonau’r wasg ac mae’r cynnig arall gan y wasg yn awgrymu y dylai’r diwydiant barhau i oruchwylio ei hun.
Daily Mail
Mae Llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith beth bynnag wedi dweud bod angen rheoli’r papurau newydd o’r tu allan.
Dywedodd bod ymosodiadau y Daily Mail a’r Mail on Sunday ar dad Ed Milliband yn profi bod yr angen i ffrwyno’r wasg yn parhau.