Y Prif Weinidog, David Cameron
Bydd cynhadledd wleidyddol flynyddol y Ceidwadwyr yn cychwyn ym Mancenion yfory ac mae’r Prif Weinidog David Cameron yn hyderus bod pethau’n gwella ar ôl cyfnod anodd.

Ar drothwy’r gynhadledd, dywedodd wrth y BBC bod yr economi wedi dod trwy’r cyfnod anodd a’i fod bellach “ar y trac cywir”.

Ychwanegodd bod angen llywodraeth Geidwadol yn unig ar ôl yr etholiad nesaf “er mwyn gorffen y gwaith”

UKIP

Mae Mr Cameron yn cydnabod ar y llaw arall bod angen gwneud llawer mwy “er mwyn ad-ennill y bobl sydd wedi llithro at bleidiau eraill” gan gynnwys UKIP.

Dywedodd mai dim ond y Ceidwadwyr sy’n cynnig “dewis go iawn” i’r etholwyr ar fater Ewrop gan fod y blaid yn addo ail-negydu telerau aelodaeth Gwledydd Prydain ac yna rhoi’r cyfan gerbron yr etholwyr mewn refferendwm.

Bydd cynhadledd y Ceidwadwyr yn parhau am bedwar niwrnod.