Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r darlledwr David Jacobs fu farw yn 87 oed ar ôl bod yn dioddef o glefyd Parkinson’s a chanser yr iau.

Roedd Jacobs yn llais cyfarwydd ar raglenni radio a theledu fel Juke Box Jury, Pick of the Pops, What’s My Line? a Any Questions?

Roedd wedi rhoi’r gorau i’w raglen wythnosol ar Radio 2 fis diwethaf oherwydd salwch.