Bedd James Bulger
Mae mam James Bulger wedi bod yn destun sbeit ar trydar ar ôl cael ei chyhuddo o fod yn gyfrifol am farwolaeth ei mab trwy beidio cadw llygad arno.

Dywedodd Denise Fergus ei bod wedi derbyn neges ar ei chyfrif trydar yn datgan mai hi oedd y bai am”‘ollwng gafael ar law ei mab” cyn iddo gael ei lofruddio gan y bechgyn deg oed, Jon Venables a Robert Thompson yn Chwefror 1993.

“Dw i ddim yn gallu credu bod rhywun yn fy meio i am lofruddiaeth fy mab,” meddai. “Mae wedi cymryd cryn amser i mi beidio beio fy hun.”

Mae’r wefan Twitter wedi cael ei beirniadu’n ddiweddar gyda rhai yn galw ar y gwasanaeth i ymateb yn fwy llym yn dilyn ymosodiadau personol ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Bwlio trwy ddefnyddio gwefannau cymdeithasol sydd wedi cael y bai am achosi hunanladdiad nifer o bobol ifanc yn ddiweddar.