Gweddillion gwersyll yn Cairo
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cyhoeddi bod Llywodraeth San Steffan bellach yn “hynod bryderus” am y trais yn yr Aifft ac yn cynghori teithwyr i beidio teithio o gwbl i Ogledd Seinai.

Mae nhw’n cynghori hefyd y dylid teithio i weddill yr Aifft dim ond os oes wirioneddol raid, onibai am drefi glannau’r Môr Coch.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod ynghanol trafodaethau efo cynrychiolwyr gwledydd eraill yn y dwyrain canol a bod yr Ysgrifennydd Tramor Willam Hague wedi cael trafodaeth y bore yma efo Gweinidog Tramor Twrci, Ahmet Davotuglu.

Yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande eisoes wedi galw am gyfarfod brys o weinidogion tramor holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd i drafod y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street:

“Mae nhw yn cytuno y dylai’r Undeb Ewropeaidd gael neges glir ac unedig; rhaid i’r trais ddod i ben yn syth ac mae angen deialog gwleidyddol rhwng cynrychiolwyr pob ochr, fydd yn arwain a ddemocratiaeth go iawn.”

Wythnos o brotestio

Mae cefnogwyr y cyn-Arlwydd Morsi, Y Frawdoliaeth Fwslemaidd, wedi galw am wythnos gyfan o raliau yn yr Aiift.

Fe wnaeth pethau waethygu yn y wlad ar ôl i’r llywodraeth dros-dro yno awdurdodi clirio dau wersyll o brotestwyr yn Cairo gan achosi marwolaeth o leiaf 638 o bobl.