Mae lluoedd o Brydain wedi bod yn rhan o ymgyrch filwrol fawr yn Afghanistan, mewn rhan o’r wlad sydd wedi gweld yr ymladd gwaetha’ yn ystod y rhyfel.

Fe ddaeth y cadarnhad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn heddiw, fod 80 o filwyr o wledydd Prydain wedi teithio i Sangin er mwyn ymladd gwrthryfelwyr y Taliban ochr yn ochr â Byddin Genedlaethol Afghanistan.

Mae hyn ychydig fisoedd yn unig cyn i Fyddin Genedlaethol Afghanistan gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch o fewn y wlad.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, roedd angen caniatâd arbennig gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, cyn ymgymryd â’r ymgyrch ddiweddara’ hon – a hynny oherwydd bod llywodraeth Prydain yn awyddus i drosglwyddo cyfrifoldeb a grym i fyddin Afghanistan.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, roedd rhan milwyr o Brydain yn yr ymgyrch yn gydnaws â’u rôl “ymgynghorol” nhw yn y wlad.