Mae gweinidogion cyllid gwledydd gr
ŵp G20 wedi cefnogi cynllun i geisio atal cwmniau rhyngwladol rhag osgoi talu trethi.

Mewn cyfarfod barodd deu-ddydd yn Moscow, fe wnaethon nhw hefyd gefnogi cynllun gan y Gymdeithas dros Gydweithredu Economaidd a Datblygu (OECD) i atal cwmniau rhag symud eu helw o’r naill wlad i’r llall.

Dywed yr OECD bod sawl cwmni yn camddefnyddio rheolau er mwyn osgoi talu treth.

Croesawu’r penderfyniad

Mae’r Canghellor George Osbourne wedi croesawu’r penderfyniad a’i ddisgrifio fel “cam pwysig tuag at sefydlu system dreth sydd yn deg ac yn addas ar gyfer yr economi fodern.”

Mae rhai o’r rheolau treth cyfredol yn dyddio yn ôl i ddauddegau’r ganrif ddiwethaf ac yn cael eu defnyddio nid i osgoi talu trethi mewn dwy wlad ond i’w gwneud yn haws i gwmniau beidio talu unrhyw dreth o gwbl.

Mae cwmniau fel Google, Starbucks, Apple ac Amazon wedi cael eu beirniadu am osgoi talu treth yn y gwledydd ble mae nhw’n yn masnachu.

Mae cynrychiolwyr G20 yn gobeithio y bydd y cynllun newydd yn weithredol ymhen dwy flynedd.