Yr EDL yn Birmingham (llun PA)
Mae dros 15 o bobl wedi cael eu harestio yn Birmingham yn ystod protest gan yr English Defence League ynghanol y ddinas.

Daeth cannoedd o aelodau’r EDL ynghyd yn Sgwâr Centenary ac fe daflwyd nifer o bethau at yr heddlu ar ôl i rai dorri trwy’r rhengoedd.

Roedd protestwyr gwrth EDL wedi dod ynghyd yn Sgwâr Chamberlain.

Camerau

Dywed yr EDL eu bod yn protestio am fod camerau cylch cyfyng wedi cael eu tynnu o ardaloedd Washwood Heath a Sparkbrook yn y ddinas ble mae nifer o Fwslemiaid yn byw.

Talwyd am osod dros 200 o gamerau yno – rhai ohonyn nhw’n gudd – o gronfa’r llywodraeth i ymladd terfysgaeth a dywedodd arweinydd yr EDL Tommy Robinson y dylid eu hail godi.

“Rydyn ni angen y camerau yma er mwyn i bobl deimlo’n ddiogel,” meddai.

Mae un o aelodau seneddol Mwslemaidd Birmingham, Khalid Mahmood hefyd wedi galw am ail osod y camerau i atal cynlluniau terfysgol.

Cafodd y camerau eu gosod yn 2010 a’u tynnu i lawr yn 2011 wedi i’r cymunedau yn y ddwy ardal gwyno na fu ymgynghori lleol ynglyn â’u gosod.

Ramadan

Roedd dros 30 o fudiadau cymunedol ar draws Birmingham wedi galw ar yr heddlu i atal protest yr EDL yn enwedig am fod y cyfnod yma ynghanol gwyl Ramadan a bod yna nifer o ymosodiadau wedi bod ar sawl mosg yng nghanolbarth Lloegr yn ddiweddar.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr nad oedd gandddyn nhw’r hawl i wahardd “protestiadau statig.”