Mae mwy na 3,000 o drwyddedau i werthu arfau i wledydd lle mae pryderon ynglŷn â hawliau dynol yn dal i fod yn ddilys, yn ôl pwyllgor o ASau.

Dywed y Pwyllgor Dethol ar Reoli Allforion Arfau (CAEC) bod gwerth y trwyddedau yn fwy na £12 biliwn.

Ymhlith y gwledydd sydd wedi cael trwydded ar gyfer nwyddau rheoledig mae Iran, Sri Lanka, Saudi Arabia, Rwsia, China a Belarus. Mae tair trwydded yn parhau’n ddilys ar gyfer Syria.