Mae 71 o blismyn wedi cael eu hanafu yn ystod pedair noson o derfysgoedd yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r terfysgoedd yn gysylltiedig â’r penderfyniad i wahardd yr Orymdaith Oren draddodiadol.

Bydd aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn trafod y gwaharddiad heddiw.

Cafodd 60 o brotestwyr eu harestio hyd yma, wedi i’r terfysgoedd ddechrau nos Wener yn dilyn y penderfyniad i wahardd yr Urdd Oren rhag gorymdeithio trwy ardal Ardoyne yng ngogledd Belfast.

Mae’r heddlu wedi annog gwleidyddion i geisio tawelu’r mater.

Neithiwr, cafodd bom ei daflu at yr heddlu yn ardal Ardoyne, ac fe ledodd y terfysgoedd yn gyflym.

Cafodd 11 o blismyn eu hanafu gan daflegrau yn New Lodge ac ar ystad Mount Vernon.

Cafodd o leiaf chwe bom, nifer o fomiau petrol a thaflegrau eraill eu taflu at yr heddlu yn nwyrain Belfast.

Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Cynulliad yn trafod cynnig gan yr Unoliaethwyr Democrataidd sy’n nodi bod ymdrechion i ysgogi heddwch wedi’u niweidio gan benderfyniad y Comisiwn Gorymdeithiau i wahardd yr orymdaith symbolaidd ar Orffennaf 12.