Llong danfor Trident
Mae Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth Prydain, Philip Hammond wedi dweud y byddai is-raddio gwasanaeth niwclear Trident yn “hapchwarae gyda diogelwch Prydain”.

Bu rhai yn galw am wasanaeth Trident rhan-amser wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol baratoi i gyhoeddi arolwg o’r system arfau.

Dywed Philip Hammond mai disodli llongau tanfor niwclear yw’r unig ateb pan fydd yr hen gerbydau yn cael eu dad-gomisiynu.

Mae disgwyl i’r aelod Cabinet Danny Alexander awgrymu haneru nifer y cerbydau i ddau.

Ond mae Philip Hammond yn dweud nad oes synnwyr ariannol yn y cynllun, gan y byddai’n golygu arbedion o tua 0.17%.

Mynnodd fod angen cadw pedwar cerbyd tanfor am y dyfodol agos.

Mae disgwyl i’r cerbydau gael eu disodli yn 2028, ac fe fydd penderfyniad ynghylch disodli’r pedwar gael ei wneud yn 2016.

Mae cyn-Ysgrifenyddion Amddiffyn a phenaethiaid milwrol wedi datgan eu cefnogaeth i’r cynllun i gadw pedwar cerbyd, mewn llythyr i’r Daily Telegraph.

Maen nhw’n rhybuddio na ddylai’r Llywodraeth “gymryd risg gyda’n diogelwch” trwy is-raddio Trident.

Ymhlith y rhai a lofnododd y llythyr mae’r cyn-Ysgrifenyddion Liam Fox a Syr Malcolm Rifkind, ynghyd â chyn-Ysgrifenyddion Amddiffyn Llafur, Bob Ainsworth, yr Arglwydd Reid a’r Arglwydd Robertson.

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i’r cynllun i gadw pedwar cerbyd.

Ond mae CND wedi dweud bod peidio disodli’r cerbydau yn opsiwn i Lywodraeth Prydain, ac y gallai hynny gynnig manteision strategol ac economaidd.