Fe fu rhagor o wrthdaro rhwng Teyrngarwyr a’r heddlu am y drydedd noson yn olynol ym Melfast.
Fe ddechreuodd y gwrthdaro yn ardal Heol Woodvale yng ngogledd y ddinas. Daw’r trafferthion yn dilyn penderfyniad dadleuol i wahardd gorymdaith yr Urdd Oren drwy ardal weriniaethol Ardoyne gerllaw.
Roedd cannoedd o Deyrngarwyr wedi bod yn protestio yn yr ardal cyn i derfysg ddechrau neithiwr.