Mae adroddiad ym mhapur newydd y Sunday Times wedi arwain at gyhuddiadau bod Llywodraeth Prydain yn rhagrithiol ar fater y diciâu mewn gwartheg.

Yn ôl y Sunday Times, mae Llywodraeth Glymblaid Prydain yn parhau i adael i gig o wartheg sydd wedi’u heintio â TB i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd.

Ym mis Mai, dywedodd prif filfeddyg Defra, Nigel Gibbens wrth bapur newydd yr Independent fod yr haint yn debygol o ledu pe na bai’n cael ei reoli.

Ond, yn ôl y Sunday Times, mae’r Llywodraeth wedi is-raddio’r perygl oherwydd ei bod yn gwneud elw o £10 miliwn y flwyddyn trwy werthu’r cig.

Lladd moch daear

Mae Llywodraeth Prydain yn gyfrifol am gynlluniau i ladd moch daear er mwyn ceisio atal TB rhag lledu.

Dywedodd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Moch Daear, David Williams: “Mae dychmygu bod lladd bywyd gwyllt yn cael unrhyw effaith ystyrlon ar ffigurau fel y rhain yn nonsens llwyr.

“Mae’r Glymblaid wedi dioddef yn sgil ei rhagrith ei hun.

“Mae uwch swyddogion wedi rhybuddio am risg posib i iechyd pobol ond dim ond er mwyn cefnogi eu polisi eu hunain o ladd moch daear.”

Ychwanegodd nad oes pwrpas parhau gyda threialu difa moch daear.