Ian Brady adeg ei arestio
Mae’r llofrudd Ian Brady wedi colli ei apêl i gael ei drosglwyddo o ysbyty meddwl i’r carchar.

Roedd £250,000 wedi ei wario ar wrandawiad i benderfynu a oedd Brady yn ei iawn bwyll i gael ei symud i’r carchar.

Fe fydd rhaid iddo aros yn Ysbyty Ashworth ar Lannau Merswy yn dilyn y penderfyniad.

Daeth y gwrandawiad i’r casgliad nad yw e’n ei iawn bwyll, a bod angen iddo barhau i dderbyn triniaeth.

Roedd teuluoedd y rhai a gafodd eu llofruddio gan Brady a’i bartner, Myra Hindley wedi beirniadu’r penderfyniad i gynnal y gwrandawiad, gan ddweud bod y cyfle wedi dod iddo gael llwyfan wedi’i ariannu gan drethdalwyr.

Cafodd ei garcharu am oes yn 1966.

Anhwylder meddwl

Dywedodd pennaeth y panel, y barnwr Robert Atherton: “Mae’r tribiwnlys wedi dod i’r casgliad bod Mr Ian Stewart Brady yn parhau i ddioddef o anhwylder meddwl sydd o natur a graddau sy’n ei gwneud hi’n briodol iddo barhau i dderbyn triniaeth feddygol a’i bod hi’n angenrheidiol i’w iechyd a’i ddiogelwch ac i ddiogelwch pobol eraill ei fod e’n derbyn y fath driniaeth yn yr ysbyty, a bod triniaeth feddygol briodol ar gael iddo.”

Mae gan Brady yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Dydy’r panel ddim wedi cyhoeddi eu rhesymau’n llawn eto.

‘Yn ei iawn bwyll’

Roedd ei gyfreithwyr wedi ceisio dadlau ei fod e yn ei iawn bwyll, a’i fod e’n ddigon iach i ddychwelyd i’r carchar.

Byddai hynny wedi ei alluogi i wrthod bwyta a “rhoi terfyn ar ei fywyd ei hun”.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Ashworth, Dr David Fearnley: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r amser mae’r tribiwnlys wedi’i dreulio a’r ymdrech mae wedi’i wneud yn yr achos hwn ac mae ei benderfyniad yn unol â barn arbenigol ein clinigwyr.”

Gwadodd fod yr ysbyty yn “brwydro” yn erbyn Brady.

Yn ystod y gwrandawiad, cyfeiriodd Brady at “chwarae rôl” a’i gyfeillgarwch gyda’r brodyr Kray.

Jack the Ripper

Yn ystod y gwrandawiad fe gymharodd Brady ei hun â Jack the Ripper.

Gwadodd ei fod e wedi bod yn bwyta’n gyfrinachol, gan fynnu ei fod e’n dal i wrthod bwyd.

Mae Brady yn dioddef o sgitsoffrenia, ac fe fynnodd gwrthwynebwyr i’r cais fod yr achos yn dangos ei angen am reolaeth ar sefyllfaoedd a’i ddymuniad i osod ei hun yn llygaid y cyhoedd.

Llofruddiodd Brady a Myra Hindley bump o blant yn y 1960au.

Cafodd eu cyrff eu claddu ar Saddleworth Moor, ond dim ond un corff sydd wedi cael ei ddarganfod.