Y Goruchaf Lys
Fe fydd teuluoedd milwyr o Brydain gafodd eu lladd tra’n gwasanaethu yn Irac yn cael gwneud cais am iawndal yn erbyn y Llywodraeth, fe ddyfarnodd y Goruchaf Lys heddiw.

Mae’r teuluoedd eisiau mynd a’r Llywodraeth i gyfraith am esgeulustod a gwneud ceisiadau o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol.

Fe gyhoeddodd y Goruchaf Lys heddiw y gallen nhw barhau i wneud hynny.

Roedd nifer o deuluoedd wedi dechrau camau cyfreithiol o ganlyniad i farwolaeth nifer o filwyr o Brydain yn ystod y rhyfel yn Irac a ddechreuodd yn 2003.

Mae eu buddugoliaeth yn y llys yn dilyn gwrandawiad yn Llundain ym mis Chwefror.

Dywed y teuluoedd bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu a darparu cerbydau arfog nac offer a allai fod wedi achub bywydau, ac y dylai dalu iawndal.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn mae penderfyniadau ynglŷn ag offer milwrol yn cael ei wneud gan wleidyddion ac uwch-swyddogion milwrol.

Dywedodd  cyfreithwyr sy’n cynrychioli teulu’r Corporal Stephen Allbutt, 35, o Stoke-on-Trent, Swydd Stafford ei fod wedi ei ladd mewn digwyddiad “friendly fire” ym mis Mawrth 2003. Bu farw ar ôl i danc Challenger 2 daro yn erbyn tanc arall. Bu farw’r marchfilwr David Clarke, 19, o Littleworth, Swydd Stafford yn yr un digwyddiad.

Cafodd y milwyr Dan Twiddy o Stamford yn Swydd Lincoln ac Andy Julien o Bolton, Manceinion hefyd eu hanafu yn y digwyddiad, meddai’r cyfreithwyr.

Ym mis Gorffennaf 2005 cafodd y Preifat Phillip Hewett, 21, o Tamworth ei ladd pan ffrwydrodd Land Rover. Roedd ffrwydradau tebyg hefyd wedi lladd y Preifat Lee Ellis, 23, o Wythenshawe, Manceinion yn 2006 a’r Is-Gorpral Kirk Redpath, 22, o Romford yn Essex yn 2007.

Mae’r penderfyniad heddiw wedi cael ei groesawu gan y teuluoedd.