Nigel Evans
Mae Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Nigel Evans wedi cael ei arestio eto ar amheuaeth o dri ymosodiad anweddus.

Cafodd yr Aelod Seneddol 55 oed ei arestio’r bore ma mewn gorsaf heddlu wrth iddo ateb gofynion ei fechnïaeth.

Cafodd ei arestio fis diwethaf ar amheuaeth o dreisio ac ymosod yn rhywiol.

Mae’r holl honiadau’n ymwneud â dynion yn eu 20au, ac mae’r dynion yn honni i’r treisio a’r ymosodiadau rhyw ddigwydd yn Pendleton yn ei etholaeth rhwng Gorffennaf 2009 a Mawrth 2013.

Mae’r dynion yn honni i’r ymosodiadau diweddaraf  ddigwydd yn Blackpool a Llundain rhwng 2003 a 2011.

Fis diwethaf, dywedodd Aelod Seneddol Dyffryn Ribble, Nigel Evans fod yr honiadau’n “hollol ffals” a bod y ddau oedd wedi gwneud y cwynion yn ei erbyn yn “ffrindiau” iddo.

Mewn datganiad pan gafodd ei arestio’r tro cyntaf, dywedodd Evans, sy’n hanu o Abertawe: “Mae’r cwynion yn hollol ffals ac alla’ i ddim deall pam eu bod nhw wedi cael eu gwneud, yn enwedig gan fy mod i wedi parhau i gymdeithasu gydag un mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf.”

Nid yw Nigel Evans yn cyflawni ei ddyletswyddau fel Dirprwy Lefarydd tra bod yr ymchwiliad yn parhau, ond mae e’n dal i fod yn gweithio fel Aelod Seneddol.

Dywedodd llefarydd o Heddlu Swydd Gaerhirfryn: “Mae dyn 55 oed o Pendleton yn Swydd Gaerhirfryn wedi ateb gofynion ei fechnïaeth heddiw yn dilyn ei arestio ym mis Mai ar amheuaeth o dreisio ac ymosod yn rhywiol.

“Mae e bellach wedi’i arestio eto ar amheuaeth o dri achos o ymosod yn anweddus.

“Fe fydd e’n cael ei gyfweld am yr honiadau hyn mewn gorsaf heddlu yn Swydd Gaerhirfryn yn ystod y dydd.

“Rydyn ni’n trin pob honiad o natur rywiol yn ddifrifol iawn ac rydym yn deall pa mor anodd y gall fod i ddioddefwyr fagu’r hyder i ddod aton ni.

“Fel cwnstabliaeth, rydyn ni’n ymroddedig i ymchwilio i droseddau rhyw mewn modd sensitif ond yn drylwyr, gan gydnabod yr effaith mae’r math yma o droseddau’n ei chael ar ddioddefwyr.”