George Osborne
Fe fydd George Osborne yn cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer y diwydiant bancio yn dilyn adroddiad hir-ddisgwyliedig gan y Comisiwn Seneddol ar Safonau Bancio.

Mae’r adroddiad yn amlinellu cyfres o argymhellion i godi safonau yn y sector bancio yn dilyn yr helynt am ddylanwadu ar gyfraddau llog Libor.

Dylai uwch swyddogion banciau gael eu carcharu am gamweinyddu, yn ôl adroddiad y comisiwn. Mae hefyd yn dweud y dylai bancwyr gael eu trwyddedu a chael eu hymrwymo i reolau safonau bancio.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod nifer o argymhellion yn yr adroddiad “a fyddai’n helpu cynlluniau’r Llywodraeth i greu system fancio gryfach a mwy diogel.”

Yn y cyfamser mae disgwyl i’r Canghellor ddefnyddio ei araith flynyddol yn Mansion House i awgrymu y gallai cyfran y trethdalwr o 40% ym manc Lloyds gael ei werthu erbyn 2015. Mae disgwyl iddo hefyd alw am adolygiad ynglŷn â sut i werthu rhai o asedau gwael  Banc Brenhinol yr Alban (RBS) yn dilyn pwysau i drosglwyddo’r banc i’r sector preifat unwaith eto.