Mae portread o’r Frenhines yn Abaty Westminster wedi cael ei ddifwyno â phaent.

Fe gafodd y llun, sy’n cael ei arddangos yn Chapter House, ei ddifrodi amser cinio heddiw, yn ôl llefarydd ar ran yr Abaty. 

“Mewn digwyddiad amser cinio heddiw, fe chwistrellodd ymwelydd â’r Abaty baent ar bortread Ralph Heimans o’r Frenhines.” 

Mae’r digwyddiad yn dod naw diwrnod ar ôl i’r Frenhines ac aelodau eraill o’r teulu brenhinol fynychu gwasanaeth yn yr Abaty i ddathlu 60 mlwyddiant ei choroni yn 1953.     

Cafodd y llun ei gwblhau y llynedd i ddathlu Jiwbili Deimwnt y Frenhines Elizabeth II.