David Cameron
Mae  David Cameron wedi dweud bod y gwasanaethau cudd ym Mhrydain yn gweithredu’n gyfreithlon.

Daeth ei gyhoeddiad yn dilyn amheuon bod gan asiantaeth glustfeinio GCHQ gysylltiadau â rhaglen i fonitro’r we yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y gwasanaethau cudd yn hanfodol er mwyn amddiffyn trigolion Prydain mewn “byd peryglus”.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague yn cael ei holi gan aelodau seneddol yn ddiweddarach heddiw yn rhinwedd ei rôl yn gyfrifol am GCHQ.

Ond rhybuddiodd David Cameron na fyddai’r Llywodraeth yn rhoi sylwebaeth fyw ar faterion cudd.

“Mae’n werth cofio pam bod gyda ni wasanaethau cudd a beth maen nhw’n ei wneud i ni.

“Rydyn ni’n byw mewn byd peryglus, rydyn ni’n byw mewn byd o ofn a therfysgaeth.

“Fe welson ni hynny ar strydoedd Woolwich yn ddiweddar iawn.

“Rwy’n credu ei bod hi’n iawn bod gyda ni wasanaethau cudd trefnus sydd wedi’u hariannu’n dda er mwyn helpu i’n cadw ni’n ddiogel.

“Ond gadewch i fi fod yn hollol glir: maen nhw’n wasanaethau cudd sy’n gweithredu o fewn y gyfraith, o fewn y gyfraith rydyn ni wedi’i chreu ac maen nhw’n ddarostyngedig i graffu cywir…”

Prism

Cafodd manylion am raglen fonitro Prism yn yr Unol Daleithiau a chysylltiadau gyda GCHQ eu cyhoeddi mewn erthygl yn y Guardian ar sail gwybodaeth gan gyn-weithiwr y CIA ac Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Edward Snowden, sy’n weinyddwr TG ar gyfer Booz Allen Hamilton: “Alla’ i ddim gadael i lywodraeth yr UDA ddinistrio preifatrwydd, rhyddid y rhyngrwyd a rhyddid sylfaenol.

“Fy unig ysgogiad yw hysbysu’r cyhoedd o’r hyn a wneir yn eu henw a’r hyn sy’n cael ei wneud iddyn nhw.”

Yn ôl adroddiadau, mae gan Prism fynediad i fanylion defnyddwyr systemau Google, Facebook, Microsoft, Apple, Yahoo a Skype.

Daeth i’r amlwg bod gan GCHQ fynediad i system Prism ers mis Mehefin 2010.

‘Rhannu gwybodaeth’

Dywedodd llefarydd materion tramor y Blaid Lafur, Douglas Alexander ei bod hi’n “hanfodol” bod y cyhoedd yn gwybod fod y gwasanaethau cudd yn gweithredu’n gyfreithlon.

“Wrth gwrs rydyn ni am rannu gwybodaeth. Mae’r bobol sydd am wneud niwed i’r DU yn gweithredu’n rhyngwladol ac mae angen i’r rhai sy’n ceisio ein cadw ni’n ddiogel weithredu’n rhyngwladol hefyd.

“Ond ar y llaw arall, yn nhermau cymeriad a natur amseru’r ceisiadau a wneir gan y DU i’r UDA, a allai gynnwys trigolion y DU yn ogystal â thrigolion rhyngwladol, mae angen gwneud hynny ar sail y fframwaith cyfreithiol a osodir gan y Senedd.”