Mae cadeirydd pwyllgor seneddol wedi gwadu torri rheolau lobïo yn dilyn honiadau ei fod wedi cynnig defnyddio’i safle i hyrwyddo buddiannau busnes.
Dywed Tim Yeo, cadeirydd y Pwyllgor Ynni a Newid yn yr Hinsawdd, ei fod yn “gwrthod yn llwyr” honiadau a wnaed ar ôl i newyddiadurwyr y Sunday Times ei ffilmio’n ddiarwybod iddo.
Dywed yr Aelod Seneddol Torïaidd ei fod hefyd wedi cyfeirio’i hun at y comisiynydd safonau seneddol er mwyn clirio’i enw. Roedd disgwyl iddo ymddangos ar raglen Sunday Politics y BBC i gael ei holi gan Andrew Neil heddiw, ond fe dynnodd yn ôl ar y munud diwethaf.
Tric y newyddiadurwyr
Roedd y newyddiadurwyr wedi mynd ato gan gymryd arnyn nhw eu bod yn gweithio ar ran cwmni ynni solar yn cynnig ei gyflogi am ffi o £7,000 y diwrnod i bwyso am gyfreithiau newydd i hybu busnes y cwmni.
Mae’n ymddangos ei fod wedi dweud na allai siarad yn gyhoeddus dros y cwmni ynni gwyrdd honedig oherwydd “fe fydd pobl yn dweud ei fod yn dweud hyn oherwydd ei fudd masnachol”.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos hefyd iddo ychwanegu: “Mae’r hyn yr ydw i’n ei ddweud wrth bobl yn breifat yn fater cwbl wahanol.”
Mae’r ffilm a dynnwyd gan y papur newydd hefyd yn dangos Tim Yeo yn awgrymu ei fod wedi hyfforddi cleient ar sut i ddylanwadu ar y pwyllgor.
“Ro’n i’n gallu dweud wrtho ymlaen llaw beth y dylai ei ddweud,” meddai.
Mae cod ymddygiad Tŷ’r Cyffredin yn gwahardd aelodau rhag gweithredu fel eiriolwyr taledig.