Yr Ysgrifennydd Tramor William Hague
Fe fydd y llywodraeth yn cynnal pleidlais yn y Senedd cyn y bydd yn arfogi gwrthryfelwyr yn Syria.

Cafodd hyn ei gadarnhau gan yr Ysgrifennydd Tramor William Hague ar ôl i dros 80 a Aelodau Seneddol Torïaidd arwyddo llythyr yn galw ar y llywodraeth i geisio cymeradwyaeth y Senedd i benderfyniad o’r fath.

Mae gwaharddiad yr Undeb Ewropeaidd ar gyflenwi arfau i Syria wedi cael ei godi ers y mis diwethaf, a hynny’n rhannol yn sgil pwysau gan lywodraethau Prydain a Ffrainc.

Dywedodd William Hague fod hyn yn rhoi “hyblygrwydd” ac nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto a ddylid arfogi gwrthryfelwyr sy’n ymladd yn erbyn cyfundrefn Bashar al-Assad.

Ond rhybuddiodd fod y byd yn gadael Syria i lawr wrth ganiatáu i drais gynyddu yn y wlad, a dywedodd fod llwyddiannau milwrol diweddar Assad am wneud trafodaethau heddwch yn fwy anodd.