Mae awyren fechan wedi plymio i lawr i ardd gefn ty yn ardal Cheltenham.

Fe ddaeth y peilot 76 mlwydd oed allan o’r awyren yn fyw, wedi diodde’ mân anafiadau yn unig. Ni chafodd perchennog y ty, yn ardal Warden Hill, unrhyw anaf.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerloyw, fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10.45yb heddiw, wedi adroddiadau fod awyren Cessna peiriant sengl wedi plymio i’r ddaear.

“Mae’r peilot, gwr 76 oed o Lundain, wedi diodde’ mân anafiadau, ac mae’n cael ei drin gan barafeddygon ar hyn o bryd,” meddai wedyn.

“Mae tai gerllaw wedi cael eu gwagio, tra bod y gwasanaeth tân yn gwneud yn siwr fod y safle’n ddiogel.”

Mae safle’r ddamwain 2.5 milltir o Faes Awyr Sir Gaerloyw, sydd yn Staverton ger Cheltenham.