Y Frenhines Elizabeth II
Mae disgwyl dros 2,000 o bobl i Abaty Westminster ar gyfer gwasanaeth arbennig i nodi 60 mlynedd ers coroni’r Frenhines yn 1953.

Fe fydd dros 20 o aelodau’r teulu brenhinol yn ymuno gyda’r Frenhines yn y digwyddiad dathlu am 1.00 o’r gloch.

Mae pedwar rhan i’r gwasanaeth a fydd yn dilyn trefn y gwasanaeth yn 1953 – y Gydnabyddiaeth, yr Eneinio, yr Wrogaeth a’r Diolchgarwch. Am y tro cyntaf ers 1953 fe fydd y goron a gafodd ei defnyddio i goroni’r Frenhines yn cael ei chludo o Dŵr Llundain i’r Abaty.

Yn y gwasanaeth o dan arweiniad Archesgob Caergaint a Deon Westminster, fe fydd y Prif Weinidog David Cameron ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad, Kamalesh Sharma, yn rhoi darlleniadau.

Cafodd y Frenhines ei choroni ar 2 Mehefin, 1953, yn Abaty Westminster – man coroni pob un o frenhinoedd a breninesau Lloegr ers dros fil o flynyddoedd.