Bedd James Bulger
Mae mam James Bulger, y bachgen dwy oed a gafodd ei lofruddio yn Lerpwl yn 1993, wedi apelio ar fwrdd parôl i beidio â rhyddhau un o’i ddau lofrudd o’r carchar.

Dywedodd Denise Fergus fod Jon Venables yn dal i fod yn beryglus ac nad yw e “wedi dysgu o ladd James”.

Mae achos Jon Venables yn cael ei ystyried am yr ail dro, ar ôl iddo gael ei ryddhau yn 2001 a’i alw yn ôl i’r carchar yn 2010.

Bryd hynny, roedd Venables, sy’n 30 oed ac wedi cael enw a chefndir newydd, wedi torri amodau ei barôl trwy godi a dosbarthu lluniau anweddus o blant ar gyfrifiadur.

Fe gollodd ei hawl i barôl yn 2010 yn dilyn y drosedd, pan gafodd ei garcharu am ddwy flynedd.

Y cefndir

Cafodd Jon Venables, ynghyd â Robert Thompson, ei garchar mewn canolfan ieuenctid ar ôl i lys gael y ddau’n euog o lofruddiaeth y bachgen bach ar ol iddyn nhw ei gipio o ganolfan siopa.

Dim ond 10 ac 11 oed oedden nhw ar y pryd ac fe ddaeth yr achos yn n o rai  enwoca’r 1990au.

Mae disgwyl i dad James, Ralph Bulger, roi tystiolaeth trwy linc fideo’n ddiweddarach heddiw.

Does dim sicrwydd pryd fydd y bwrdd parôl yn gwneud penderfyniad.