Mae Eddie Braben, awdur sgriptiau’r ddeuawd gomedi Morecambe and Wise, wedi marw yn 82 oed.

Bu’n byw yng ngogledd Cymru ers rhai blynyddoedd, er ei fod e’n enedigol o Lerpwl.

Roedd e’n adnabyddus am ei ddawn i dynnu ar berthynas y ddau gomedïwr oddi ar y llwyfan er mwyn creu sefyllfaoedd comedi trawiadol.

Roedd e hefyd yn ysgrifennu deunydd i Ken Dodd, David Frost a Ronnie Corbett.

Dechreuodd ei berthynas â Morecambe a Wise yn 1969, pan gafodd ei benodi gan Bennaeth Adloniant Ysgafn y BBC, Bill Cotton.

Mae’n gadael ei wraig Dee, tri phlentyn a chwech o wyrion.