Mae cyfreithiwr ar ran y digrifwr, Jim Davidson, wedi gwrthod yn bendant yr honiad fod y seren wedi cael ei holi gan yr heddlu ynglyn â throsedd ryw a ddigwyddodd ar Ynysoedd y Malfinas.

Fe gafodd Jim Davidson ei ryddhau eto ar fechnïaeth ddoe gan dditectifs Ymchwiliad Yewtree. Roedd wedi ei arestio’n wreiddiol gan swyddogion Scotland Yard ym mis Ionawr eleni, tros honiadau o droseddau rhyw yn erbyn merched yng ngwledydd Prydain.

Dyw’r comedïwr 59 oed ddim wedi cael ei gyhuddo, ac mae ar fechnïaeth tan fis Gorffennaf.

Heddiw, mae adroddiadau wedi ymddangos yn y wasg yn honni fod ditectifs Yewtree yn ymchwilio i droseddau ar ran Heddlu Brenhinol Ynysoedd y Malfinas.

“Mae Jim yn dal i wrthod yn gryf yr honiadau sydd wedi ei roi ger ei fron,” meddai Henri Brandman, ei gyfreithiwr. “Mae’n cynorthwyo’r heddlu gymaint ag y medr.”

“Dydi Jim ddim wedi cael ei holi mewn cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiad honedig yn ymwneud â dynes yn y Falklands tua 30 mlynedd yn ôl,” meddai’r cyfreithiwr wedyn.

“Hyd nes y bydd, ac os y bydd, yn cael ei holi ynglyn â hynny, dydi hi ddim yn briodol nac yn bosib i mi nac iddo yntau wneud sylw ar y mater.”