Nigel Farage - ef sy'n dathlu hyd yn hyn
Mae’r blaid asgell dde UKIP wedi ennill tir yn yr holl etholiadau lleol yn Lloegr, lle mae cyfri wedi bod eisoes.

Yn ôl llefarydd, maen nhw’n gobeithio ennill mwy na 100 o seddi i gyd ac mae eu llwyddiant eisoes wedi cyfrannu at golli grym i’r Ceidwadwyr mewn dwy sir.

Fe ddaeth llwyddiant mwya’ plaid Nigel Farage yn swydd Lincoln, wrth gipio 16 o seddi a thorri gafael y Ceidwadwyr yno. Roedd yna ddeg sedd iddyn nhw hefyd yn Hamphsire a naw yn Essex.

Fe gollodd y Ceidwadwyr afael ar Swydd Caerloyw – Gloucestershire – hefyd wrth i Lafur gipio pedair sedd newydd ac UKIP yn cael tair.

Cam ymlaen, meddai UKIP

Fe lwyddodd y Ceidwadwyr i gadw grym mewn pedwar o’r chwech cyngor lle’r oedd cyfri dros nos – ond dim ond o drwch blewyn y cadwon nhw un o’r rheiny.

Yn ôl llefarydd ar ran UKIP, mae’r llwyddiannau yn y siroedd yn gam at eu nod o ennill seddi seneddol. Fe fyddai rhagor o ASau’n anesmwyth o ganlyniad, meddai.