Mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn paratoi at golledion wrth i bobl bleidleisio mewn etholiadau lleol yn dilyn ymgyrch sydd wedi cael ei ddominyddu gan blaid Nigel Farage, UKIP.

Dyw arweinydd  y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, heb ddiystyru dod yn bedwerydd i UKIP, tra bod y Torïaid yn ofni y bydd pleidleisiau’n cael eu rhannu rhyngddyn nhw ac UKIP.

Mae’r bwcis yn rhagweld y bydd UKIP yn cipio mwy na 100 o seddau ac maen nhw’n cydnabod y bydd y Ceidwadwyr yn colli pleidleisiau i UKIP.