Mae nifer y bobol yng ngwledydd Prydain sy’n mynd i’r ysbyty yn diodde’ o broblemau’r iau (afu) o ganlyniad i alcoholiaeth, yn codi’n ddramatig, yn ôl ystadegau.

Hefyd, mae nifer y rhai sy’n diodde’ o alcoholiaeth ac yn cael trawsblaniad iau, ar gynnydd.

Yn ystod y tair blynedd diwetha’, mae nifer y bobol sy’n cael eu derbyn gan ysbytai yn diodde’ o fath alcoholig o glefyd yr iau, wedi codi o 1,000 o achosion.