Margaret Thatcher
Bydd corff Margaret Thatcher yn gwneud ei siwrne olaf i senedd-dy San Steffan heddiw tra bod dadl yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin am ei hetifeddiaeth hi fel prif weinidog.

Bydd y ddadl yn cael ei chynnal tra bod corff y cyn-brif weinidog yn gorwedd yng nghapel Santes Mary Undercroft y senedd.

Yr Aelod Seneddol asgell-chwith George Galloway sydd wedi ennyn y ddadl drwy wrthwynebu’r bwriad i ganslo sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog a Chwestiynau’r Alban yfory.

Dywedodd AS Respect y bydd ganddo “lawer i’w ddweud” am y prif weinidog “maleisus” a beirniadodd y cyhoeddiad na fydd cloc Big Ben yn canu yn ystod yr angladd – y tro cyntaf i’r cloc gael ei dawelu ers angladd Winston Churchill yn 1965.

Mae Mark a Carol Thatcher wedi dweud eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r penderfyniad i anrhydeddu eu mam drwy dawelu’r cloc.

Gwasanaeth preifat heddiw

Mae gwasanaeth preifat yn cael ei gynnal yng nghapel y senedd heddiw ar gyfer aelodau’r teulu a chynrychiolwyr o’r ddau Dŷ, ac mae Caplan y Llefarydd, y Parchedig Rose Hudson-Wilkin yn cynnal gwylnos.

Bydd yr arch yn gadael San Steffan mewn hers yfory cyn cael ei drosglwyddo i goets dal gynnau ar gyfer y cymal olaf i gadeirlan Sant Paul.

Ni fydd Obama yno

Mae Barack Obama wedi cyhoeddi y bydd dirprwyaeth arlywyddol yn bresennol yn yr angladd ar ran yr Unol Daleithiau.

Bydd yn cael ei harwain gan ddau a fu’n ysgrifennydd tramor America yn ystod arweinyddiaeth Thatcher – George Shultz a James Baker III.

Bydd gan y blaid Weriniaethol dri chynrychiolydd yn yr angladd, gan gynnwys aelod arch-geidwadol o’r Tea Party, Michele Bachmann.