Mae yr Arglwydd Prescott a Esgob Grantham ymhlith y rhai sy’n credu bod angladd y Farwnes Thatcher, gaiff ei gynnal dydd Mercher nesaf, yn rhy ddrud a rhy fawr.

Dywedodd y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, yr Arlgwydd Prescott, yn ei golofn yn y Sunday Mirror bod “ y wlad wedi talu hen ddigon diolch i’r ddynes yna” ac wrth siarad ar orsaf BBC Radio Lincolnshire, dywedodd Esgob Grantham, y Gwir Barchedig Dr Tim Ellis, mai cangymeriad oedd cynnal angladd mor fawr.

Mae canlyniadau arolwg barn yn yr Independent on Sunday ac yn y Sunday Mirror hefyd yn dangos bod 60% o’r 2,012 holwyd yn erbyn talu am yr angladd o bwrs y wlad tra bod 25% o blaid gwneud hynny.

Cynhaliwyd protest yn erbyn côst yr angladd a pholisiau’r cyn Brif Weinidog gan tua 500 o bobl yng nghanol Llundain ddoe hefyd.

Mae datganiad ar ran 10 Downing Street yn dweud bod teulu Mrs Thatcher eisoes wedi cynnig cyfraniad at y gôst.

Trefn yr angladd

Yn y cyamser cyhoeddwyd manylion trefn yr angladd gaiff ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol St Paul dydd Mercher.

Bydd Pensiynwyr Chelsea yn sefyll ar y grisiau sy’n arwain i’r Eglwys, bydd ei wyres Amanda Thatcher a’r Prif Weinidog David Cameron yn darllen a bydd y gwasanaeth yn gorffen efo’r emyn “I vow to thee my country”.

Sefydlu llyfrgell er cof amdani

Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i agor sefydliad yn Llundain fydd yn hybu athroniaeth wleidyddol Margaret Thatcher ac yn dylanwadu ar bolisiau’r Ceidwadwyr yn y dyfodol.

Bydd ‘Llyfrgell Goffa Margaret Thatcher’ hefyd yn cynnwys amgueddfa a chanolfan hyfforddi ar gôst o £15 miliwn yn ôl mudiad ‘The Conservative Way Forward’ sydd tu cefn i’r fenter.

Y Fonesig Thatcher oedd arweinydd y mudiad tan ei marwolaeth. Cafodd y CWF ei ffurfio yn 1991 ar ôl iddi gael ei gorfodi i roi’r gorau i fod yn Brif Weinidog.