Mae 2,000 o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn gorymdaith yn erbyn arfau niwclear yn Glasgow.

Mae’r trefnwyr, y Scrap Trident Coalition, yn galw ar lywodraeth Prydain i gael gwared ar arfau niwclear a gwario’r arian ar iechyd, addysg a lles.

Roedd y rali’n rhan o benwythnos o ddigwyddiadau a’r bwriad yw ceisio rhwystro’r ffordd i Faslane, lle caiff taflegrau Trident eu storio, ddydd Llun.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Brian Larkin, fod y nifer o bobl a gymerodd ran yn y brotest yn “galonogol iawn”.

“Mae gennym bobl o’r undebau llafur, ymgyrchoedd hawliau i’r anabl ac ymgyrchoedd gwrth-doriadau,” meddai. “Mae gennym hefyd lawer o bobl ifanc. Mae’r genhedlaeth newydd yn cydnabod pwysigrwydd symud adnoddau oddi wrth Trident, oddi wrth bethau militaraidd a’u rhoi nhw tuag at bobl.”

Galw am annibyniaeth

Yn y rali, fe alwodd aelod o’r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban ar wrthwynebwyr arfau niwclear i bleidleisio o blaid annibyniaeth i’r Alban.

“Y tro hwn, rydym ar fin gallu gwneud penderfyniad i gael gwared ar Trident unwaith ac am byth,” meddai Patrick Harvie.

“Os pleidleisiwn o blaid annibyniaeth i’r Alban yn 2014, yna fe gawn y cyfle i waredu’r Alban o’r system arfau ffiaidd ac anghyfreithlon hon a gwneud yr Alban yn rym dros heddwch yn y byd. Mae hi’n adeg wirioneddol gyffrous i’r mudiad.”