Cafwyd saith awr o deyrngedau i Margaret Thatcher yn y senedd ddoe (Sefydliad Margaret Thatcher CCA 3.0)
Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ddydd Llun ar gynnig i ohirio cychwyn gweithrediadau’r Senedd tan 2.30pm ar ddiwrnod angladd Margaret Thatcher.

Gyda’r cynnig yn debygol o gael ei basio, fe fydd hynny’n golygu na fydd cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mercher nesaf.

Mae David Cameron eisoes wedi cael ei feirniadu am fynnu ailalw Aelodau Seneddol yn ôl i sesiwn arbennig ddoe i dalu teyrngedau i’r cyn-brif weinidog a fu farw ddydd Llun. Mae adroddiadau fod y Llefarydd John Bercow a’r Prif Chwip Syr George Young yn gwrthwynebu hyn, gan nad yw’n arferol ailalw’r Senedd ond mewn adegau o argyfwng gwirioneddol.

Roedd y saith awr o deyrngedau i Margaret Thatcher ddoe yn cymharu â phedair teyrnged yn unig a gafodd eu traddodi yn y senedd pan fu farw Winston Churchill yn 1965.

Cost yr angladd

Parhau mae’r dadlau hefyd am gost yr angladd – yr honnir ei fod tua £8 miliwn – gyda gweinidogion yn gorfod amddiffyn gwario cyhoeddus ar angladd person mor ddadleuol.

Er y bydd ystâd Thatcher yn gwneud cyfraniad, mae’r llywodraeth yn gwrthod datgelu faint fydd y seremoni wedi ei gostio i’r trethdalwyr.

Wrth i’r gwahoddiadau ffurfiol gael eu paratoi heddiw, mae’r ddau Brif Weinidog Llafur Tony Blair a Gordon Brown wedi cadarnhau y byddan nhw’n mynd.

Fodd bynnag, ni fydd yr Arglwydd Kinnock, a oedd yn arweinydd yr Wrthblaid y rhan fwyaf o’r adeg yr oedd Thatcher yn Brif Weinidog, yno. Dywedodd ei fod wedi addo mynd i angladd cynghorydd o’i hen etholaeth, Islwyn, yr un diwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran cyn-arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Mikhail Gorbachev, na fydd yn mynd i’r angladd oherwydd problemau iechyd.