Gall Aelodau Seneddol sy’n dychwelyd adre o dramor i dalu teyrnged i Margaret Thatcher hawlio costau o hyd at £3,750.

Dywedodd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol y gall Aelodau Seneddol hawlio costau teithio ar ôl cael eu galw’n ôl yn gynnar i’r Senedd yn dilyn marwolaeth y Farwnes Thatcher ddydd Llun.

Os ydyn nhw’n gorfod dychwelyd yn gynt na’r disgwyl o’u gwyliau dramor, fe fyddan nhw’n cael hawlio costau i deithio dramor eto ar ôl y cyfarfod heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod ei bod hi’n “rhesymol” iddyn nhw gael eu had-dalu os ydyn nhw wedi bod ar eu gwyliau dramor ac yn gorfod dychwelyd.

“Os caiff y Senedd ei galw’n ôl, gall ASau hawlio costau i gyrraedd y Senedd.”