Margaret Thatcher
Fe fydd Aelodau Seneddol ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi yn dychwelyd i’r Senedd yn gynnar heddiw er mwyn rhoi teyrnged i Margaret Thatcher a fu farw ddydd Llun.

Bydd angladd seremonïol y cyn brif weinidog Ceidwadol yn cael ei gynnal wythnos i heddiw gydag anrhydeddau milwrol llawn.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gyflwyno araith, yn ogystal ag arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband a’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg. Bydd teyrngedau hefyd gan aelodau o Dŷ’r Arglwyddi ac mae disgwyl i  gyn aelodau o gabinet y Farwnes Thatcher gyfrannu hefyd.

Bydd yr aelodau yn trafod ei chyfraniad i Brydain, ond mae disgwyl i’r gwahaniaeth barn am ei pholisiau  gael ei hadlewyrchu yn y teyrngedau heddiw. Mae rhai ASau wedi galw am onestrwydd, tra bod eraill yn dadlau bod angen ymatal rhag bod yn feirniadol.

Fe allai’r teyrngedau yn y Senedd barhau am saith awr a hanner – fel arfer, tua awr sy’n cael ei dreulio yn nodi marwolaeth cyn Brif Weinidog.

Amddiffyn costau’r angladd

Daw’r ddadl yn y Senedd wythnos cyn angladd y Farwnes Thatcher yng Nghadeirlan Sant Paul.  Mae disgwyl i’r Frenhines a Dug Caeredin fynd i’w hangladd, ac yn ôl adroddiadau fe fydd cyn arweinydd yr Undeb Sofietaidd Mikhail Gorbachev, a Nancy Reagan, gwraig cyn Arlywydd yr UDA, Ronald Reagan hefyd yn bresennol. Mae disgwyl i Downing Street ryddhau rhagor o fanylion yn ystod y dyddiau nesaf.

Yn y cyfasmer, mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi amddiffyn cyfraniad trethdalwyr tuag at gost yr angladd a chostau’r ddadl yn y Senedd heddiw.

Dywedodd y gallai Prydain “fforddio” cyfrannu tuag at ran o’r costau.

Wrth siarad ar raglen Breakfast y BBC, dywedodd ei fod yn iawn fod y Senedd yn coffau arweinydd “oedd wedi newid cwrs ein hanes”.

Mae’n debyg bod teulu’r Farwnes Thatcher hefyd yn cyfrannu tuag at gostau’r angladd, a fydd yn costio oddeutu £8 miliwn.

Mae mab y Farwnes Thatcher, Mark, yn ôl yn y DU ac mae disgwyl i’w merch, Carol, ddychwelyd yn fuan.