Martin McGuinness
Mae Martin McGuinness wedi galw ar bobol i beidio dathlu marwolaeth Margaret Thatcher ar ôl i bartïon gael eu cynnal mewn rhai o ardaloedd gweriniaethol gogledd Iwerddon.

Ar ei gyfrif trydar dywedodd Dirprwy Brif Ysgrifennydd Sinn Fein: “Ymwrthodwch rhag dathlu marwolaeth Margaret Thatcher. Doedd hi ddim yn heddychwraig ond mae’n gamgymeriad i adael i’w marwolaeth wenwyno ein meddyliau.”

Ddoe roedd Llywydd Sinn Féin, Gerry Adams, wedi cyhuddo Thatcher o “wneud niwed mawr i bobol Iwerddon a Phrydain yn ystod ei chyfnod yn Brif Weinidog Prydain.”

“Yn Iwerddon roedd ei chefnogaeth i bolisïau milwriaethus llym wedi ymestyn y rhyfel ac achosi dioddefaint lu,” meddai Gerry Adams.

Ennyn casineb gweriniaethwyr

Roedd Margaret Thatcher wedi ennyn casineb gweriniaethwyr yng ngogledd Iwerddon ar ôl i ddeg carcharor farw yn 1981 mewn streic newyn dros gael statws carcharorion rhyfel, yn hytrach na statws troseddwyr. Gwrthododd Thatcher ag ildio, a daeth yr IRA yn agos at ei lladd hi mewn bom yn Brighton yn 1984.

Mae Prif Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Peter Robinson o’r DUP, wedi canmol Margaret Thatcher am amddiffyn yr Undeb.

“Roedd hi’n un o’r ffigurau gwleidyddol mwyaf ym Mhrydain ers yr Ail Ryfel Byd, a newidiodd hi ein Teyrnas Unedig am byth,” meddai.