Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth Prydain, Chris Grayling wedi dweud y dylai troseddwyr dalu costau achosion llys o’u helw yn y dyfodol.
Eisoes mae pobol sy’n cael eu canfod yn euog yn y llys yn talu costau i’r dioddefwr, y llysoedd neu asiantaethau eraill y Llywodraeth.
Ond ar hyn o bryd, does dim rhaid iddyn nhw dalu costau tuag at gynnal achosion.
Cost cynnal achosion yn 2013/14 fydd £665.5 miliwn. Mae Llywodraeth Prydain yn dechrau ymgynghoriad i geisio arbed £200 miliwn o gostau cymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol.
Dywedodd Chris Grayling: “Pam ddylai’r mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith ac sy’n gweithio’n galed orfod talu am wasanaeth llysoedd i’r lleiafrif sy’n torri’r gyfraith?
“Dylai’r sawl sy’n byw y tu allan i’r gyfraith wynebu’r canlyniadau drwy gael eu cosbi a thalu’r costau maen nhw’n eu gorfodi ar y gymdeithas.
“Dyna pham ein bod ni’n archwilio ffyrdd o orfodi troseddwyr i dalu tuag at gostau eu herlyn i’r llys.”
Deddfwriaeth newydd
Mae disgwyl i’r Gweinidog Cyfiawnder gyhoeddi cynlluniau newydd i fynd i’r afael â biliau cyfreithiol sy’n cynyddu’n sylweddol.
Daeth y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr i rym yr wythnos diwethaf.
Mae’r Ddeddf newydd yn golygu bod cymorth cyfreithiol yn cael ei gyfyngu i 75% yn llai o bobol.
Dywed cyfreithwyr mai dyma’r toriadau mwyaf i gymorth cyfreithiol ers i’r drefn gael ei chyflwyno yn 1949.