An tIúr (Newry)
Mae’r mudiad sy’n ymgyrchu dros yr Wyddeleg yn Iwerddon wedi galw ar lywodraethau Belffast a Dulyn i greu strategaeth ieithyddol ar y cyd er mwyn hybu’r iaith.

Mae aelodau Conradh na Gaelige ( Cynghrair yr Wyddeleg) wedi bod yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Newry yng Ngogledd Iwerddon dros y Sul, a dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol  Julian de Spáinn y buasai strategaeth ieithyddol ar gyfer yr ynys i gyd yn sicrhau deunydd llawer mwy effeithiol o adnoddau y ddau lywodraeth.

Dywedodd Llywydd y Gyngrhair, Donnchadh Ó hAodha bod strategaeth iaith y Weriniaeth bellach yn ugain mlwydd oed ac “wedi cael ei danseilio a’i wanhau” ers i’r gymblaid lywodraethol gael ei ffurfio rhwng Fine Gael a Llafur yn 2011.

Ychwanegodd ei bod yn “holl bwysig” bod siaradwyr Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu cydnabod fel rhanddeiliaid yn y gwaith o greu strategaeth iaith yno.

Mae’r gynhadledd hefyd wedi galw am adolygiad o’r modd y mae’r Wyddeleg yn cael ei dysgu mewn ysgolion a cholegau.

Roedd y cynhadleddwyr eleni hefyd yn dathlu 120 o flynyddoedd ers sefydlu’r Gyngrhair.