Bydd Al Pacino yn ymddangos mewn sioe un-dyn yn y Palladium yn Llundain eleni.

Yn ogystal â son am ei yrfa ar lwyfan a sgrîn, mi fydd An Evening With Pacino ar Fehefin 2 hefyd yn gyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at gael dod i Lundain,” meddai.

Bu Pacino yn un o sêr mwya’r byd ffilm ers degawdau, gyda rhai o’i cuhafbwyntiau yn cynnwys Serpico, Scarface a The Godfather.

Cafodd ei enwebu am Oscar wyth gwaith ac enill un am yr actor gorau yn 1992 am ei ran yn Scent Of A Woman.