Bu farw un o ser y gyfres ffilmiau Harry Potter yn 65 oed.

Roedd Richard Grffiths yn actio rhan Uncle Vernon Dursley yn y ffilmiau ac mae Daniel Radcliffe, oedd yn chwarae rhan Harry Potter wedi talu teyrnged iddo gan ddweud bod ei “anogaeth, ei diwtora a’i hiwmor wedi gwneud gwaith yn bleser.”

Bu farw Richard Griffiths yn Coventry ddoe yn dilyn llawdriniaeth ar ei galon.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y National Theatre, Sir Nicholas Hytner bod Richard Griffiths wedi bod yn actor amryddawn a bod ei yrfa wedi cwmpasu rhannau mewn dramau newydd arbrofol, dramau Shakespeare a phrif rannau mewn ffilmiau a rhagelnni teledu.

Cafodd yr actor yr OBE am ei wasanaeth i fyd y ddrama yn 2007.