Andrew Mitchell AS
Mae’r Aelod Seneddol Andrew Mitchell am ddwyn achos o enllib yn erbyn y papur newydd wnaeth gyhoeddi’r stori gyntaf am ffrae eiriol rhyngddo a phlismyn wrth y giatiau i 10 Downing Street mis Medi llynedd.

Mae Mr Mitchell wedi gwadu ei fod wedi rhegi’r plismyn a’u galw’n ‘plebs’ ond yn cyfaddef ei fod wedi ‘ymddwyn yn amharchus’ ac ym mis Hydref fe wnaeth o ymddiswyddo o fod yn Brif Chwip y Ceidwadwyr.

Dywedodd ffrind ar ran Mr Mitchell ei fod yn mynd i gyfraith oherwydd “ymgyrch o enllibio” yn ei erbyn gan y Sun.

Mae’r Sun wedi dweud eu bod “am amddiffyn y papur yn erbyn yr honniadau yn gryf.”

Arestio

Mae pedwar o  bobl, gan gynnwys tri phlismon wedi cael eu harestio yn dilyn ymchwiliad i’r digwyddiad.

Mae un aelod o’r Grŵp Gwarchod Diplomyddol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus a dau blismon arall wedi eu harestio am drosglwyddo gwybodaeth i’r cyfryngau.

Mae cyfreithiwr Mr Mitchell wedi cadarnhau eu bod yn ystyried dwyn achosion yn erbyn eraill hefyd ynglyn â’r honniadau.