David Cameron
Mae David Cameron wedi cyhoeddi newidiadau i’w dîm o weinidogion heddiw.

Fe fydd Michael Fallon yn ychwanegu’r cyfrifoldeb am ynni at ei friff yn yr adran fusnes a bydd y cyn weinidog ynni John Hayes yn dod yn brif ymgynghorydd seneddol y Prif Weinidog.

Fe fydd yn gadael yr adran ynni lle mae wedi anghydweld a’r Ysgrifennydd Gwladol Ed Davey o’r Dems Rhydd ynglŷn â pholisi.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 y bydd John Hayes yn dod yn weinidog heb bortffolio yn Swyddfa’r Cabinet ac wedi ei benodi i’r Cyfrin Gyngor.

Ychwanegodd y bydd penodiad Michael Fallon yn rhoi “ffocws cryfach ar fusnes” i’r adran ynni.