David Miliband
Mae David Miliband wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ildio’r awenau fel Aelod Seneddol.

Fe fydd y cyn ysgrifennydd tramor yn cymryd rôl gydag elusen ddyngarol yn Efrog Newydd.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband y byddai colled fawr ar ôl ei frawd David.

“Fe fydd gwleidyddiaeth Prydain yn lle dlotach heb David,” meddai.

Fe gollodd David Miliband y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur  i’w frawd iau yn 2010.

Mewn llythyr at gadeirydd y blaid yn etholaeth South Shields, dywedodd David Miliband bod y penderfyniad i adael gwleidyddiaeth yn y DU wedi bod yn “anodd iawn”.

Ond dywedodd y byddai ymuno a’r elusen yn rhoi’r cyfle iddo helpu rhai o bobl fwyaf difreintiedig y byd.