Mae Aelodau Seneddol wedi rhybuddio heddiw nad yw gweinidogion Llywodraeth Prydain yn gallu bod yn sicr o’r effaith o dorri budd-dal tai ar y bobol sy’n ei hawlio.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin hefyd yn dweud y gallai’r Llywodraeth ei chael yn anodd gwneud yr arbedion y maen nhw wedi addo eu gwneud drwy newid y budd-daliadau.

Dywed y pwyllgor nad yw’r Adran Waith a Phensiynau wedi ymdrechu i geisio mesur effeithiau’r newidiadau ar ddigartrefedd, lefelau rhent a dyledion.

Maen nhw’n dadlau nad yw’r ffigwr o £6.2 biliwn, sef targed arbedion Llywodraeth Prydain erbyn 2014-15, yn rhoi ystyriaeth i gostau gweinyddu’r newidiadau na’r costau i wasanaethau eraill pe bai lefelau digartrefedd yn codi.

Ar Ebrill 1, fe fydd newidiadau yn y rheolau’n golygu y gallai’r budd-dal tai ostwng 14% i’r bobol hynny sydd â stafell wely sbâr, a gostyngiad o 25% i’r bobol hynny sydd â dwy stafell wely sbâr.

Gallai’r bobol hynny sy’n hawlio budd-dal tai golli £14 yr wythnos ar gyfartaledd oherwydd y cynllun dadleuol.

Mae’n debygol o effeithio hyd at 660,000 o bobol ym Mhrydain.